Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 7 Rhagfyr 2017
Amser:
09.32 -
11.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4430
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC David Rees AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru Janine Hale, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilydd Cyffredinol Cymru 2018-19, yn unol ag adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Camddefnyddio Sylweddau, Llywodraeth a Busnes Corfforaethol; a Janine Hale, Prif Swyddog Ymchwil (Economeg Iechyd) ar oblygiadau ariannol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i:
· ddarparu gwybodaeth am yr adolygiad cymheiriaid a gynhaliwyd ar y ffynonellau data a ddefnyddiwyd yn y gwaith modelu gan Brifysgol Sheffield;
· darparu rhagor o wybodaeth am yr arian a ddyrennir i godi ymwybyddiaeth o'r isafbris am alcohol;
· adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion y Swyddfa Gartref, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw effaith ar y fframwaith ariannol; ac
· adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar drafodaethau â Chonsortiwm Manwerthu Cymru ynghylch ardoll wirfoddol bosibl.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull tuag at ei ymchwiliad ar Danwariant Penderfyniad y Bwrdd Taliadau.